Enw a sut hwyl
Gall y gweithgaredd hwn fod yn effeithiol iawn i dorri’r iâ, yn arbennig o ddefnyddiol ar ddechrau’r sesiwn ac wrth weithio gyda grŵp newydd o breswylwyr. Mae’n ffordd hwyliog a difyr o gyflwyno’r grŵp i’w gilydd ac mae’n caniatáu i bawb fynegi eu teimladau – naill ai mewn perthynas â’r sesiwn neu’n gyffredinol.
Pethau sydd eu hangen:
- Cadeiriau i bawb gael eistedd mewn cylch, yn ddelfrydol mewn lle eithaf tawel.
Canllaw Cam wrth Gam:
- Unwaith y bydd pawb yn eistedd mewn cylch, eglurwch eich bod am wneud eich ffordd o amgylch y cylch gan ofyn dau gwestiwn i bawb: Pwy ydych chi? a sut hwyl?
- Fel ymateb i ‘pwy ydych chi?’, gofynnwch i bobl feddwl am rywbeth amdanynt eu hunain – gallai hyn fod yn ddiddordeb maent yn ei fwynhau; gallu neu ddawn arbennig; neu rywbeth maent wedi’i wneud fel swydd a dangos gweithred i fynegi hyn yn gorfforol (e.e. breichiau yn symud i efelychu nofio i adlewyrchu rhywun sy’n mwynhau nofio)
- Unwaith y bydd pawb wedi dewis rhywbeth, ewch o gwmpas y cylch yn gofyn iddynt ddweud eu henw wrth wneud y weithred, gan ddechrau gyda chi eich hun fel enghraifft.
- Gofynnwch i’r grŵp ailadrodd pob enw a gweithred.
- Gofynnwch i’r grŵp ailadrodd hyn yn ôl i chi – yr enw a’r weithred.
- Nesaf, eglurwch wrth ymateb i ‘sut hwyl?’ bod angen i bobl ymateb gyda sŵn a gweithred i egluro eu teimladau (e.e. dylyfu gên ac ymestyn gydag ‘ahhh’ i ddweud eich bod yn gysglyd)
- Gofynnwch i’r grŵp ailadrodd hyn yn ôl
- Ewch o gwmpas y grŵp yn gofyn y cwestiynau hyn i bob unigolyn ac annog y grŵp i’w hailadrodd.
Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:
Gallech ddatblygu’r gweithgaredd hwn drwy adeiladu’r sain a’r weithred ar gyfer teimladau pobl – pan fyddwch wedi cyrraedd yr unigolyn olaf yn y grŵp, mae’r dilyniant yn cynnwys sain a gweithred pob preswyliwr.
Gallwch hefyd arbrofi drwy wneud y sain a’r ystumiau yn fwy neu’n llai.
Addasrwydd
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai abl:
Yn dibynnu ar y gefnogaeth sydd gennych ar gael, gallech neilltuo staff i eistedd wrth y preswylwyr sydd angen y cymorth mwyaf.
I bobl sy’n ei chael hi’n anodd meddwl am weithgaredd ar gyfer eu hunain, gallech gynnwys y staff a/neu’r grŵp os ydynt yn eu hadnabod.
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Yn ddelfrydol, gwneir y gweithgaredd hwn mewn grŵp. Wedi dweud hynny, os ydych yn gweithio gydag un unigolyn yn unig, gallwch ddewis ystum a’i ailadrodd i’r unigolyn arall.