Dotio ar beintio!
Adeiladu dotiau lliwgar gan ddefnyddio paent a ffyn cotwm. Mae hwn yn weithgaredd rhydd ond mae elfen strwythuredig ynghlwm ag o.
Pethau sydd eu hangen:
- Paent acrylig
- Cynwysyddion neu baletau
- Pensiliau
- Cerdyn du
- Ffyn cotwm
- Ffedogau
Canllaw Cam wrth Gam:
- Rhowch amrywiaeth o baent acrylig allan
- Rhowch nifer o ffyn cotwm i bob preswyliwr
- Rhowch ddarn o gerdyn du i bob preswyliwr
- Tynnwch luniau o siapiau o gwmpas dwylo ar y cerdyn gan ddefnyddio pensil (efallai y bydd angen pensiliau gwyn arnoch neu rywbeth a fydd yn sefyll allan er mwyn i breswylwyr weld y llinellau)
- Gan ddefnyddio ffyn cotwm, dabiwch baent ar y cerdyn gan ddilyn y llinellau a dynnwyd
- Gadewch i sychu
Byddwn yn awgrymu defnyddio un lliw i bob siâp fel ei fod yn amlwg.
Syniadau am Ragor o Weithgareddau gyda’r Syniad hwn:
Gallech arbrofi gyda gwahanol arwynebau, cynfasau neu fagiau cotwm efallai. Mae defnyddio cefndir tywyll yn creu canlyniadau dramatig. Neu gallech feddwl am arbrofi gyda llythyren unigol os hoffech sillafu rhywbeth penodol i’r cartref.
Addasrwydd
Ffyrdd o addasu i breswylwyr llai galluog:
Os yw gwelededd neu gydsymudiad yn broblem, yna beth am wneud gwaith rhydd? Peidiwch â phoeni am ddilyn y llinellau, ys gwn i beth fydd yn cael ei greu drwy wneud gwaith dabio rhydd, ar hap?
Ffyrdd o addasu o grŵp i unigolyn ac fel arall:
Gellid gwneud hyn ar raddfa fawr mewn grŵp dros amser. Gallwch gael rai pobl yn gweithio arno ac yna ei gylchdroi hyd yn oed. Yn unigol, defnyddiwch gerdyn du A4 neu A3.