Gweithdai cARTrefu
A fyddai eich cartref gofal yn elw o weithio gyda'n hartistiaid?
Mae coronafeirws, neu COVID-19, yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae angen i bob sefydliad asesu'r cyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi a llunio barn ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio arnynt. Yn dilyn asesiad risg manwl a'n pryder am lesiant y rhai rydym yn gweithio gyda nhw, rydym wedi penderfynu symud ein gweithdai a'n cynlluniau gweithgareddau cARTrefu ar-lein. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa, a gobeithio y cawn ddychwelyd i weithio gyda chi wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos
cARTrefu
cARTrefu, sy’n golygu i breswylio, yw prosiect celfyddydau mewn cartrefi gofal blaenllaw Age Cymru sydd wedi bod yn rhedeg ers 2015. Nod y prosiect yw gwella mynediad at brofiadau yn ymwneud â’r celfyddydau o safon ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal, a datblygu sgiliau’r artistiaid a’r gweithwyr cartref gofal i redeg y sesiynau hyn.
Mae cARTrefu bellach wedi tyfu i fod y prosiect mwyaf o’i fath yn Ewrop, a phrofwyd bod gwelliant ystadegol sylweddol i lesiant trigolion ar ôl cymryd rhan mewn sesiynau cARTrefu, gydag effaith ehangach fel cymdeithasu mwy ac adennill sgiliau fel defnyddio cyllell a fforc. Mae cARTrefu hefyd wedi cael effaith ar y staff gofal sy’n rhan o’r sesiynau, gan ddangos gwelliant sylweddol mewn agweddau tuag at breswylwyr, yn enwedig y rhai sy’n byw gyda dementia, a chynnydd yn yr hyder i arwain sesiwn gelfyddydau creadigol yn y cartref.
Os ydych chi'n credu y byddai'ch cartref gofal yn elwa o'r gweithdai cARTrefu, a/neu gael un o'n hartistiaid i weithio gyda chi ar gynllun gweithgareddau, llenwch y ffurflen gais