Amdanom ni
Gwaith cyfredol
Diolch i gyllid pellach bydd cARTrefu yn parhau am ddwy flynedd arall. Dechreuodd trydydd cam cARTrefu ym mis Medi 2019, ond mae’n wahanol i’r ddau gam cyntaf.
Rydym yn cynnal gweithdai hanner diwrnod rheolaidd ledled Cymru i gyflwyno staff cartrefi gofal i cARTrefu, gan roi cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar sut i redeg gweithgareddau creadigol mewn cartrefi gofal, gan fagu hyder staff, a defnyddio adnoddau presennol.
Bydd ein hartistiaid hefyd yn gweithio gyda staff cartrefi gofal dros bedair wythnos i ddatblygu cynlluniau gweithgareddau cARTrefu cynaliadwy, sy’n hygyrch ac yn hawdd i’w cyflwyno. Mae’r gweithdai a’r cynlluniau gweithgareddau ar gael yn rhad ac am ddim i gartrefi gofal.
Rydym hefyd yn cynnal gweithdai cARTrefu am ddim ledled Cymru ar gyfer artistiaid a gweithwyr creadigol sydd â diddordeb mewn dysgu am fodel cARTrefu a chyfle i rannu arfer gorau o weithio mewn cartrefi gofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi preswylwyr sy’n byw gyda dementia. Mae gennym nod hirdymor o feithrin gallu yn y sector celfyddydau ehangach i ymateb i anghenion y cartrefi gofal.
Os ydych chi’n credu y byddai’ch cartref gofal yn elwa o’r gweithdai cARTrefu, a/neu gael un o’n hartistiaid i weithio gyda chi ar gynllun gweithgareddau, llenwch y ffurflen gais
Fel rhan o’r prosiect, rydym hefyd wedi cynllunio Pecyn Gweithgareddau ar gyfer cartrefi gofal, yn seiliedig ar waith tîm artistiaid cARTrefu a ddatblygwyd mewn cartrefi gofal. Rydym bellach wedi mwy na dyblu maint y pecyn gwreiddiol.
Mae’r Pecyn Gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau syml ond effeithiol i staff cartrefi gofal redeg gyda phreswylwyr ac maent am ddim i’w defnyddio ar gyfer pob cartref gofal yng Nghymru.
Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynllunio fel y gellir eu darparu heb unrhyw wybodaeth arbenigol, ac mae gan bob gweithgaredd hefyd syniad o faint o amser paratoi sy’n gysylltiedig, a hefyd a yw’r gweithgaredd yn addas ar gyfer unigolion neu grwpiau.
Un o amcanion eraill y prosiect oedd defnyddio arddangosfeydd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fywyd creadigol mewn cartrefi gofal, trwy gyfrwng y gwaith celf sydd wedi ei greu gyda, a’i ysbrydoli gan, bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw.
Mae’r Ciwb cARTrefu yn caniatáu i ni arddangos y gwaith ledled Cymru, trwy gyflwyno gwaith artistiaid lleol i’r cyhoedd. Rydym yn parhau â Thaith Ciwb cARTrefu i 2020 a thu hwnt i arddangos gwaith ein hartistiaid cARTrefu, a wnaed gyda’u hamser yn gweithio gyda thrigolion mewn cartrefi gofal ac mewn ymateb iddynt.