Amdanom ni
Amdanom ni
Mae cARTrefu, sy’n golygu preswylio, yn rhaglen chwe blynedd sy’n cael ei rhedeg gan Age Cymru ac yn ceisio gwella mynediad i brofiadau celfyddydol o ansawdd i bobl hŷn mewn gofal preswyl.
cARTrefu yw prosiect celfyddydau mewn cartrefi gofal blaenllaw Age Cymru sydd wedi bod yn rhedeg ers 2015, gyda chyllid gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y prosiect yw gwella’r ddarpariaeth o weithgarwch creadigol mewn cartrefi gofal a datblygu sgiliau’r artistiaid sy’n rhedeg y sesiynau hyn. Wedi’i hysbrydoli gan Fodel Mentora Killick- Courtyard, sydd wedi bod yn rhedeg yn The Courtyard yn Henffordd ers 2011, cymerodd Age Cymru’r model llwyddiannus hwn o raglen datblygu artistiaid dan arweiniad mentor a’i defnyddio fel blociau adeiladu ein prosiect celfyddydau arbrofol mewn cartrefi gofal, cARTrefu.
Mae cARTrefu bellach wedi tyfu i fod y prosiect mwyaf o’i fath yn Ewrop. Rydym wedi cael gwahoddiad i siarad am y prosiect mewn cynadleddau yn Copenhagen, Sydney, Caeredin, Belfast, Barcelona a Llundain. Mae Cymru wir yn arwain y ffordd o ran effaith y celfyddydau ar lesiant, yn enwedig i’r rhai sy’n byw gyda dementia ac rydym yn falch bod cARTrefu yn rhan sylweddol o uchelgeisiau Cymru yn y maes hwn.
Gobeithiwn y bydd cARTrefu yn meithrin mwy o werthfawrogiad o’r celfyddydau ymhlith staff cartrefi gofal wrth iddynt weithio gyda’n hartistiaid. Rydym am i staff cartrefi gofal fagu mwy o hyder a chaffael sgiliau newydd, ac yna’u rhannu a’u hymarfer yn eu gwaith beunyddiol gyda thrigolion.