Mae Ticky yn Arlunydd Amlgyfrwng a hwylusydd gweithdai wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru. Caiff ei diddori gan focsys a gwrthrychau a’r straeon ac ymatebion maent yn eu creu. Mae hi ynghlwm â chydweithrediadau, cyfnodau preswyl, comisiynau ac yn rheoli prosiectau creadigol.
Mae Ticky yn gweithio’n aml mewn ysgolion, cartrefi preswyl ac ysbytai gyda phobl o bob oed a gallu.
Mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol gyda phobl sy’n byw â dementia yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys adnoddau hel atgofion er defnydd staff gofal a nyrsio er mwyn iddynt allu uniaethu â chleifion yn yr ysbyty, a chyfnod preswyl tymor hir yn gweithio gyfochr â gweithiwr cymorth dementia.
Ar hyn o bryd mae Ticky yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf i 12 casgliad hel atgofion fydd ar gael i’w benthyca gan gartrefi a grwpiau gofal yng Nghonwy drwy’r Hyb Diwylliannol newydd, a chyn bo hir bydd hi’n cychwyn ar waith mewn partneriaeth ag Amgueddfa 1950au Ymddiriedolaeth Cae Dai yn Ninbych i dreialu casgliad hel atgofion i’w ddefnyddio gan gartrefi a grwpiau gofal yn Ninbych.
Mae Ticky wedi’i lleoli yn Sir Ddinbych, ac mae hi wedi gweithio fel artist cARTrefu yn ystod cam cyntaf 2015 – 2017, a dychwelodd ar gyfer y trydydd cam yn 2019.