Telerau ac Amodau
Gwybodaeth gyfreithiol
Age Cymru
Mae Age Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, (rhif elusen gofrestredig 1128436 a rhif cwmni cyfyngedig 6837284).
Swyddfa gofrestredig: Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Llys Trident, Heol East Moors, Caerdydd, CF24 5TD.
Cyfunodd Age Concern Cymru (rhif elusen 505071) a Help the Aged (rhif elusen 272786) ar 1 Ebrill 2009 gan ffurfio Age Cymru.
Telerau ac amodau
Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i Age Cymru, a’i gwmnïau masnachu a chwmnïau cysylltiedig lle bynnag sy’n berthnasol (“Age Cymru Group” gyda’i gilydd).
Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r wefan hon (“Safle”). Drwy ddefnyddio’r Safle hwn, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn, sy’n dod i rym ar ddiwrnod cyntaf eich defnydd o’r Safle.
Mae Age Cymru Group yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn drwy gyhoeddi’r newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd o’r Safle hwn ar ôl cyhoeddi newidiadau yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb diwygiedig hwn.
Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i unrhyw safle dan reolaeth Age Cymru ac mae dolen wedi’i chreu ar bob safle i fynd at y telerau ac amodau hyn.
Age Cymru Group, neu gyflenwyr ei gynnwys, sydd â hawlfraint dros y deunydd. Mae Age Cymru Group wedi gwneud pob ymdrech i ennill hawlfraint ar gyfer pob deunydd ysgrifenedig ar y Safle hwn. Gofynnwn i unrhyw un sydd â hawlfraint dros ddeunydd a gyhoeddir ar y Safle hwn i gysylltu â ni.
Ni chaniateir defnydd anawdurdodedig o’r deunydd, gan gynnwys copïo, storio, addasu, dosbarthu neu gyhoeddi heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Age Cymru Group neu, lle bynnag sy’n berthnasol, y perchennog/perchnogion hawlfraint perthnasol.
Ni cheir lawrlwytho, altro nac addasu dogfennau ar y Safle hwn (gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, lluniau, logos, enwau ac eiconau) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y deiliad hawlfraint at unrhyw ddiben ac eithrio defnydd personol, anfasnachol. Petai unrhyw gŵyn yn dod i sylw Age Cymru Group mewn perthynas â deunydd trydydd parti ar ei Safle, bydd yn adolygu’r mater ac yn cael gwared ar ddeunydd yn ôl ei benderfyniad yn unig. Ni fydd gan Age Cymru Group ragor o atebolrwydd i’r naill barti mewn achos o’r fath.
Mae angen trwydded i ddefnyddio Eiddo Deallusol Age Cymru Group, gan gynnwys logo ac enw Age Cymru a logo ac enw cARTrefu Age Cymru. Bydd Age Cymru yn ystyried ceisiadau o’r fath yn ôl ei benderfyniad yn unig. I wneud cais am drwydded, cysylltwch â ni drwy webenquiries@agecymru.org.uk
Darperir dolenni at wefannau trydydd parti ar y Safle hwn er cyfleustra i chi yn unig. Nid yw Age Cymru Group yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd dolenni at wefannau trydydd parti, naill ai i Safle Age Cymru neu ohoni, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir arnynt. Os ydych yn penderfynu defnyddio unrhyw wefan trydydd parti sy’n gysylltiedig â’r Safle hwn, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Rhaid i unrhyw wefan sydd eisiau creu dolen at unrhyw safle Age Cymru, neu wneud cais am greu dolen atynt hwy, gysylltu â ni drwy webenquiries@agecymru.org.uk
Os yw’r Telerau ac Amodau hyn a/neu delerau defnyddio penodol sy’n ymddangos ar y Safle hwn mewn perthynas â deunydd penodol yn mynd yn groes i’w gilydd, yr olaf fydd yn berthnasol.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad yw’n torri hawliau defnydd a mwynhad y Safle hwn gan unrhyw drydydd parti, eu cyfyngu na’u hatal. Mae cyfyngu ac atal o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiadau, ymddygiad anghyfreithlon neu a all aflonyddu neu achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw un, trosglwyddo deunydd anweddus neu sarhaus neu amharu ar lif deialog arferol y Safle hwn.
Oni bai y gofynnir fel arall, drwy rannu negeseuon ar unrhyw fwrdd trafod Age Cymru Group, rydych yn caniatáu trwydded i Age Cymru Group gopïo’r sylwadau hyn ar unrhyw ran arall o’r Safle ac mewn unrhyw gyhoeddiad arall.
Ble gallwch gyflwyno unrhyw gyfraniad at y Safle, rydych yn cytuno, drwy gyflwyno’ch cyfraniad, i roi hawl bythol, heb freindaliadau, anghyfyngedig, is-drwyddedig i Age Cymru Group, yn ogystal â thrwydded i ddefnyddio, copïo, newid, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gwaith yn deillio ohono, dosbarthu, perfformio, chwarae, ac ymarfer pob hawl hawlfraint a chyhoeddusrwydd mewn perthynas â’ch cyfraniad yn fyd-eang a/neu ymgorffori eich cyfraniad yng ngwaith arall yn unrhyw gyfrwng sy’n hysbys ar hyn o bryd neu a ddatblygir yn ddiweddarach am hyd lawn unrhyw hawl a all fodoli yn eich cyfraniad. Os na hoffech ganiatáu’r hawliau uchod i Age Cymru, peidiwch â chyflwyno’ch cyfraniad i Age Cymru Group.
Drwy gyflwyno’ch cyfraniad i Age Cymru Group, rydych yn sicrhau mai eich gwaith gwreiddiol chi yw eich cyfraniad a bod gennych yr hawl i’w ryddhau i Age Cymru Group at unrhyw ddiben neu bob un a nodir uchod. Yn ogystal, rydych yn sicrhau nad yw eich cyfraniad yn ddifenwol, nid yw’n torri unrhyw gyfraith, eich bod yn digolledu Age Group Cymru rhag unrhyw ffi gyfreithiol, difrod ac unrhyw gost arall a all ddod i ran Age Cymru Group o ganlyniad i chi yn torri unrhyw un o’r gwarantau uchod a diddymu unrhyw hawl moesol yn eich cyfraniad at ddibenion ei gyflwyno i’r Safle a’i gyhoeddi arno a’r dibenion a nodwyd uchod.
Mae gan Age Cymru Group yr hawl i dynnu unrhyw ddeunydd neu gyfraniad a wnewch at y Safle hwn yn ôl ei benderfyniad.
Os na dderbynnir y Telerau ac Amodau hyn yn gyfan gwbl, rhaid terfynu defnydd o’r Safle ar unwaith.
Nid yw Age Cymru Group yn derbyn atebolrwydd am unrhyw fath o ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, difrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, colled mewn elw, neu unrhyw ddifrod sy’n codi yn sgil defnydd neu golled mewn defnydd o’r Safle hwn, neu mewn cysylltiad â hynny.
Er yr ymdrecha Age Cymru i sicrhau bod y Safle ar gael 24 awr y diwrnod, nid yw hyn yn warantedig. Nid yw Age Cymru yn sicrhau y bydd y swyddogaethau yn neunydd y Safle hwn heb ymyrraeth neu gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y Safle hwn neu’r gweinydd sy’n ei gynnal yn rhydd rhag firysau neu fygiau. Gall Age Cymru Group wneud newidiadau i’r deunydd ar y Safle hwn, neu’r wybodaeth, cynhyrchion a phrisiau a ddisgrifir ynddynt, ar unrhyw bryd yn ddirybudd. Gall y deunyddiau ar y Safle hwn fod wedi dyddio, ac nid yw Age Cymru yn ymrwymo i ddiweddaru’r Deunydd ar y Safle hwn.
Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a godir yma yn atebol i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
Gallwch geisio ateb i unrhyw gwestiynau ynghylch y Safle drwy gysylltu â ni: webenquiries@agecymru.org.uk